Dod â STEP i Lannau Hafren
Nod y cais ar gyfer Glannau Hafren, sydd yng nghanol Porth y Gorllewin, yw dod â safle ynni ymasiad prototeip y DU i'r ardal. Mae ein cais yn cynnig y cyfle gorau i ddatgloi'r ynni glân, gwyrdd a diogel hwn wrth fuddsoddi mewn cymunedau lleol hefyd.
Rhowch eich cefnogaeth. Cefnogwch gais Glannau Hafren
Mae Glannau Hafren yn un o 5 cais ar y rhestr fer i gynnal safle ynni ymasiad prototeip (STEP) y DU. Bydd y cais buddugol yn cael ei gyhoeddi ddiwedd 2022. Mae cais ynni ymasiad STEP Glannau Hafren yn gyfle anhygoel i'r bobl a'r busnesau ar draws Porth y Gorllewin. Mae'r gystadleuaeth yn gryf ac mae angen yr holl gefnogaeth y gallwn ei chael arnom i ddangos mai Glannau Hafren yw'r lle perffaith ar gyfer STEP. Rhowch eich cefnogaeth neu'ch sylwadau i ni gan ddefnyddio'r blychau isod. Cefnogwch ein cais a'n helpu i ddod ag Ymasiad STEP i Lannau Hafren.